Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 11:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding (Cadeirydd) Paul Davies Mark Drakeford Elin Jones Eluned Parrott |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carwyn Jones, Prif Weinidog Claire Fife, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Rob Hunter, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Sesiwn friffio anffurfiol cyn y prif gyfarfod
1.1 Trafododd y Pwyllgor sut y byddai’n hoffi ymdrin â’r cyfarfod.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd.
3. Craffu ar Waith y Prif Weinidog
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog.
Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
3.2 Roedd Claire Fife, Rheolwr y Rhaglen Ddeddfwriaethol, Llywodraeth Cymru, gyda’r Prif Weinidog.
3.3 Gwnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y Prif Weinidog yn y meysydd canlynol:
· Cynllunio a chydgysylltu’r rhaglen ddeddfwriaethol;
· Ymgynhoriadau ac ymgysylltu;
· Trafodaethau â Llywodraeth y DU; a
· Materion ar ôl deddfu a rhoi deddfau ar waith.
Hyrwyddo Menter
3.4 Roedd James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth gyda’r Prif Weinidog; a Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Cyllid – Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
3.5 Gwnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y Prif Weinidog yn y meysydd canlynol:
· Menter ac entrepreneuriaeth yng Nghymru;
· Polisi trawsbynciol;
· Cefnogaeth i fusnes a chreu busnesau; a
· Menter mewn addysg ac entrepreneuriaeth yr ifanc.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitem 5.
5. Ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod yn breifat cyn diwedd tymor yr hydref i drafod y busnes sydd ar ddod.